Nant y mynydd Song Lyrics
Nant y mynydd by Aled Jones Nant y mynydd groyw loyw
Yn ymdroelli tua'r pant
Rhwng y brwyn yn sisial ganu
O na bawn i fel y nant.
Grug y mynydd yn eu blodau
Edrych arnynt hiraeth ddug
Am gael aros ar y mynydd
Yn yr awel efo'r grug.
Adar mân y mynydd uchel
Godant yn yr awel iach
O'r naill drum i'r llall yn hedeg
O na bawn fel deryn bach.
Mab y mynydd ydwyf finnau
Oddi cartref yn gwneud cân
Ond mae nghalon ar y mynydd
Efo'r grug a'r adar mân.
The Mountain Stream
Mountain stream, clear and bright
Meandering toward the valley
Among the rushes softly singing
O that I were like the stream!
Mountain heather in flower
Looking at it creates a longing
For staying in the mountain
In the breeze with the heather.
Little birds of the high mountain
Rise in the clear air
From peak to peak they fly
O that I were like a bird!
I too am a son of the mountain
Away from home making a song
But my heart lies in the mountain
With the heather and the little birds.